Newid cod

Mewn ieithyddiaeth mae Newid cod (hefyd: 'gymysgu cod' a 'chymysgu iaith') yn digwydd pan mae person yn defnyddio dwy (neu ragor) o ieithoedd neu ffyrdd o siarad gyda'i gilydd yn yr un sgwrs. (Gweler heyfd: Diglosia - sef newid o'r naill iaith i'r llall yn ôl y sefyllfa).

Mae 'cod' yn derm ieithyddol ar gyfer iaith.

Mae newid cod yn beth normal ac nid yw'n arwydd o ddryswch.

Mae newid cod yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, mae pobl yn wreiddiol o Dde America sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau yn defnyddio Sbaeneg a Saesneg gyda'i gilydd. Mae pobl India hefyd yn defnyddio ieithoedd fel Hindi a Punjabi gyda Saesneg.

Yn yr un modd mae newid cod yn gyffredin iawn ymhlith siaradwyr Cymraeg.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy